Taliesin, Swansea
This Christmas, be transported into an ethereal world where a sprinkling of fairy dust makes dreams come true. This enchanting ballet by The Royal Ballet’s Founding Choreographer Frederick Ashton is a theatrical experience for all the family.
Stuck at home and put to work by her spoiled Stepsisters, Cinderella’s life is dreary and dull. Everything changes when she helps a mysterious woman out...With a little bit of magic, she is transported into an ethereal new world – one where fairies bring the gifts of the seasons, where pumpkins turn into carriages, and where true love awaits.
A Milestone Ballet
In 1939, Frederick Ashton first began to consider creating a full-length work, the Company's first three-act ballet. At the time, it seemed like the obvious next step for British ballet. The idea was shelved during the war but in 1946, Ashton returned urgently to it. Inspired by other balletic adaptations of Cinderella coming out of Russia, Ashton chose to create his own version of Charles Perrault’s famous rags-to-riches story. Set to Prokofiev’s exquisite score, the ballet received its premiere in 1948, featuring Moira Shearer and Michael Somes in the lead roles.
A World Where Dreams Blossom
The designs of this production of Cinderella are heavily influenced by nature and flowers. As the Fairy Godmother and the Seasons’ fairies come into Cinderella’s world, the muted tones of the family living room are taken over by a burst of colour. The creative team behind the exquisite world of Cinderella includes set designer Tom Pye (My Neighbour Totoro, Olivier award for Best Set Design), costume designer Alexandra Byrne (Elizabeth: The Golden Age, Academy Award for Best Costume Design), lighting designer David Finn (Brokeback Mountain), video designer Finn Ross (Les Miserables, Frozen) and illusions by Chris Fisher (Harry Potter and The Cursed Child).
-
Y Nadolig hwn, camwch i fyd arallfydol lle mae llond llaw o lwch tylwyth teg yn helpu i wireddu breuddwydion. Mae'r bale hudolus hwn gan Frederick Ashton, prif goreograffydd The Royal Ballet yn brofiad theatrig i'r teulu cyfan.
A hithau'n gaeth gartref ac yn cael ei gorfodi i weithio gan ei llyschwiorydd diog, mae bywyd Cinderella’n llwm a diflas. Mae popeth yn newid pan mae'n rhoi cymorth i fenyw ddirgel ... A gyda mymryn o hud, caiff ei chludo i fyd newydd arallfydol - un lle mae tylwyth teg yn dod ag anrhegion y tymhorau, lle mae pwmpenni'n troi'n gerbydau, a lle mae gwir gariad yn disgwyl.
Bale Arloesol
Ym 1939, dechreuodd Frederick Ashton ystyried creu gwaith hyd llawn, sef bale tair act cyntaf y Cwmni. Ar y pryd, roedd yn ymddangos fel y cam nesaf amlwg i fale ym Mhrydain. Rhoddwyd y syniad o’r neilltu yn ystod y rhyfel, ond ym 1946, dychwelodd Ashton at y gwaith. Wedi'i ysbrydoli gan addasiadau bale eraill o Cinderella ddaeth o Rwsia, dewisodd Ashton greu ei fersiwn ei hun o stori enwog Charles Perrault. Wedi'i gosod i sgôr goeth Prokofiev, cafodd y bale ei bremière ym 1948, gyda Moira Shearer a Michael Somes yn y prif rannau.
Byd lle mae Breuddwydion yn Blodeuo
Mae dyluniadau'r cynhyrchiad hwn o Cinderella wedi'u dylanwadu'n drwm gan natur a blodau. Wrth i'r Fairy Godmother a'r Seasons' Fairies ddod i fyd Cinderella, mae bwrlwm o liw yn llenwi stafell fyw syber y teulu. Mae'r tîm creadigol y tu ôl i fyd coeth Cinderella yn cynnwys y dylunydd setiau Tom Pye (My Neighbour Totoro, gwobr Olivier am y Dylunio Set Gorau), y dylunydd gwisgoedd Alexandra Byrne (Elizabeth: The Golden Age, Gwobr yr Academi am y Dylunio Gwisgoedd Gorau), y cynllunydd goleuadau David Finn (Brokeback Mountain), y dylunydd fideo Finn Ross (Les Miserables, Frozen) a rhithiau gan Chris Fisher (Harry Potter and The Cursed Child).
Taliesin, Swansea University , Singleton Campus, Swansea SA2 8PZ